Adeiladu tŷ gwydr ail law

Dyma’r trydydd tŷ gwydr bach (8 x 6tr) rwy’n codi yn yr ardd yn barod i greu mwy o ofod tyfu dan do. Mae ail godi hen dŷ gwydr yn gallu bod yn dipyn o job, yn enwedig heb gyfarwyddiadau, na sicrwydd bod pob darn pwysig gyda chi 🙈

Mantais mwyaf ailddefnyddio tai gwydr yn fy marn i ydy bod eu hansawdd dipyn yn well na’r rhai newydd (ffrâmyn yn fwy trwchus a chryf) a mae’n arbed tipyn o arian. Dim ond y to sydd ar ôl i’w godi ar hwn nawr ac yna gosod seliau rwber newydd ar y ffrâmyn a’r drws. Bydda i wedyn yn gosod llwybr yn y canol cyn rhoi’r gwydr yn ei le.

Rwy’n gobeithio defnyddio’r tŷ gwydr hwn i dyfu pob math o blanhigion ar gyfer fy ymweliadau i ysgolion 🌻🥦