Am wythnos anhygoel draw yn Llanelwedd yn y sioe fawr eleni
Diolch o galon i bawb weithiodd mor galed i ddatblygu’r Pentref Garddwriaeth ar ei newydd wedd eleni, y fyddin o stiwardiaid, staff y Sioe, cystadleuwyr, contractwyr, masnachwyr a siaradwyr! Rydych yn sêr bob yn un!
Diolch o galon hefyd i swyddogion y Sioe am fy nghroesawu â breichiau agored ac am ddal fy llaw yr wythnos hon – cymuned yw’r sioe, sy’n tynnu’r gorau o gymunedau Cymru at ei gilydd!
Es yno yn llawn nerfau a chyffro, ychydig o ofan hefyd ond dwi wedi dod gytre gyda llond gwlad o ffrindiau newydd, atgofion twymgalon a thomen o syniadau i’r adran arddwriaeth ar gyfer flwyddyn nesaf.
Diolch anferth i bawb am ddod i’n gweld yr wythnos hon ac am droi syniadau a sgyrsiau yn lwyddiant ysgubol! Ymlaen at 2025!