Cadw gwenyn

Diwrnod hollol arbennig!

Rydym wedi casglu ac ymgartrefu ein teulu cyntaf o wenyn mêl i’r ardd.

Ry’n ni wastad wedi eisiau cadw gwenyn a diolch i gwrs gwenyna gwych @gwenyngruffydd rydym o’r diwedd yn teimlo’n ddigon hyderus a barod i fynd amdani.

Ry’n ni’n ddechreuwyr pur ac yn awyddus i ddysgu gymaint a gofalu am ein gwenyn bach ffyddlon gorau gallwn ni hefyd!

Os yw pob diwrnod o gadw gwenyn hanner cystal â heddi’ byddwn ni’n joio bob munud!