Cadw hadau Pys Llanofer

Rwy’ wedi bod yn tyfu Pys Llanofer ers derbyn hadau dair blynedd yn ôl gan yr Heritage Seed Library.

Daw enw Pys Llanofer o Ystad Llanofer lle tyfwyd y planhigion yn wreiddiol. Yn ystod yr ail ryfel byd, defnyddiwyd yr ystad fel gwersyll i garcharorion rhyfel o’r Almaen. Yno cwympodd un o’r carcharorion dros ei ben a’i glustiau mewn cariad ag un o forwynion yr ystad. Ar ôl i’r rhyfel ddod i ben, fe ddychwelodd y milwr Almaeneg i Gymru a phriodi’r forwyn a gyda hynny dod â hadau Pys yn anrheg iddi (roedd bywyd lot symlach bryd ‘ny 🤣). Tyfwyd y Pys yno oddi ar hynny ac maent bellach wedi addasu yn arbennig i hinsawdd Cymru ac yn fath Cymreig o bys. Fodd bynnag yn ddiweddarach yn yr unfed ganrif ar ddeg daeth i’r amlwg na fyddai’r Pys yn goroesi oni bai bod mwy yn eu tyfu.

Rydym yn aml yn clywed am ddifodiant anifeiliaid, ieithoedd a diwylliannau ond byth yn ystyried mathau arbennig o blanhigion hefyd ac mae nhw mewn peryg o gael eu colli yn ogystal os na wnawn ni eu tyfu yn ein gerddi 🌍 Felly bob blwyddyn rwy’n cadw’r rhan fwyaf o bys i’w sychu fel hadau gyda’r gobaith o’u rhoi i grwpiau tyfu cymunedol ac ysgolion i dyfu 🌱