Mae ein Calendr Garddio 2022 ar werth nawr
Calendr Garddio Cymraeg sy’n ein tywys drwy fisoedd y flwyddyn yn rhannu tasgau garddio, cyngor a dyddiadau hau sy’n berffaith ar gyfer ein hinsawdd ni yma yng Nghymru.
Dyma’r dyddiadau y bydda i’n dilyn yn flynyddol yn fy ngardd i, yng Ngorllewin Cymru. Mae’r calendr hefyd yn cynnwys nodyn natur ym mhob mis i’n helpu i arddio mewn modd sy’n parchu ac yn diogelu byd natur, rhestr o eirfa Cymraeg a Saesneg i’n helpu i ddysgu termau garddio yn y ddwy iaith, tudalen problemau garddio cyffredin a chofnod i restru’r holl gnydau y byddwn yn llwyddo eu tyfu yn ystod y flwyddyn newydd.
Calendr Maint A4 sydd yn agor i fod yn faint A3 wrth ei hongian (twll wedi’i greu yn barod i’w hongian) ac wedi’i greu yn defnyddio papur compostadwy, jyst y peth i fwydo’r ardd yn 2023!
Archebwch eich copi chi nawr
Dyma fideo i ddangos mwy am ein Calendr Garddio 2022: