Calon Cabitshen

Mae’r bresych yn ffurfio calonnau (clwstwr o ddail trwchus yn y canol) sy’n dueddol o fod yn fwy melys na’r dail allanol 🥬

Hyd yn hyn ry’n ni wedi osgoi problemau gyda lindys gwyn y bresych ond ddoe roedd llond byddin ohonynt yn hedfan ar hyd y lle…bydd angen bod yn wyliadwrus o hyn ymlaen!

Rwy’n meddwl bod gadael y brocoli a’r cêl i hadu a blodeuo ym mis Ebrill a Mai cyn eu codi wedi helpu 🌼 Roedd y don gyntaf o Bili palod wedi dodwy eu hwyau ar y planhigion hynny ac yna wrth imi eu codi, rwy’ wedi llwyddo i nadu’r tymor magu ychydig wythnosau, cyn i don arall gyrraedd!

Does dim digon o dystiolaeth i ddweud yn hollol sicr ond rwy’n mynd i weld os fydd yr un peth yn wir flwyddyn nesaf 😃