Colofn Arddio Cymraeg newydd y Journal Mehefin 2020

Shwmae bawb, mae bron yn ddiwedd mis Mehefin ac rydym yng nghanol tymor tyfu’r mefus ar hyn o bryd, ac er na fydd pencampwriaeth Wimbledon eleni, mae’r mefus yn dal i dyfu, a thyfu’n eithriadol o dda. Rwyf wedi bod yn eu casglu bob dydd ers tua thair wythnos erbyn hyn, ac mae’n nhw’n dal i ddod. Sut mae’ch mefus chi eleni?

Mae mefus ymhlith y ffrwythau mwyaf blasus a melys gallwn dyfu, ac maent yn cynnig gymaint yn ôl am gyn lleied o ymdrech, dim ond inni gofio ychydig o bethau wrth eu tyfu. Felly dyma 5 rheol aur wrth dyfu mefus:

  1. Heulwen, heulwen a mwy o heulwen – Plannwch eich mefus mewn rhan o’r ardd sy’n derbyn y mwyaf o olau’r haul. Os nad oes gennych ardd eithriadol o heulog – plannwch y mefus mewn potiau y gallwch symud o amgylch yr ardd yn dilyn golau’r haul.
  2. Plannwch sawl math gwahanol o fefus er mwyn sicrhau cnwd cyson yn ystod y flwyddyn. Rwy’n tyfu ‘Mara de bois’ sydd yn rhoi cnwd cyson trwy gydol yr haf hyd nes ganol Hydref. Rwy’ hefyd yn tyfu ‘Elsanta’, ‘Malling Opal’ a ‘Malling Centenary’ mae’r planhigion hyn i gyd yn tyfu’n dda fan hyn yn Sir Gâr, ac yn rhoi llwyth o ffrwythau melys.
  3. Crëwch blanhigion newydd o’r egin sydd yn tyfu oddi ar y planhigion. Byddwch yn sylwi wrth ichi dyfu mefus eu bod yn hoff iawn o ledu i bob man a chreu egin bach. Dyma ffordd y planhigyn o greu planhigion newydd. Codwch y planhigion bach hyn a’u potio ymlaen i greu planhigion newydd.
  4. Mae planhigion mefus yn ffrwytho ar eu gorau yn eu hail a’u trydedd flwyddyn. Wedi’r drydedd flwyddyn byddant yn dal i roi ffrwyth ond ddim hanner cystal. Y peth gorau i wneud ydy codi’r hen blanhigion a phlannu’r rhai newydd, rydych wedi potio ymlaen, yn eu lle. O wneud hyn bob tair blynedd, byddwch yn boddi mewn mefus!
  5. Bwydwch y planhigion unwaith y flwyddyn gyda ffîd potash, pan fydd y blodau cyntaf yn agor. Rwy’n defnyddio lludw neu fel byddwn ni’n dweud yn Nyffryn Aman ‘Lliti’ o’r tân coed gan ei fod yn llawn potash.

Os hoffech chi fwy o gyngor garddio a chlywed mwy am fy mywyd yn yr ardd, dilynwch @adamynyrardd ar Instagram, Twitter neu Facebook.