Creu Pwll Bywyd Gwyllt

Mae pyllau bywyd gwyllt yn fuddiol iawn i erddi a gallant eich helpu chi fel garddwr. Mae manteision diddiwedd o gael pwll yn eich gardd; maent yn hafan i fywyd gwyllt ac yn darparu cynefinoedd i frogaod, llyffantod a madfallod a all helpu i reoli plâu’r ardd. Maent hefyd yn darparu ardal i adar yfed a golchi gan ddarparu cymaint o fioamrywiaeth mewn ardal fach.

Yn y fideo hwn, rwy’n eich tywys trwy’r camau ar sut i greu pwll gardd a’r pethau i’w hystyried fel lleoliad, dyluniad, adeiladu a phlannu.

Am fwy o wybodaeth am brosiect Tyfu’r Dyfodol, ewch i: https://garddfotaneg.cymru/science/gr…