Mae Cynghrair Bwyd Cymru heddiw wedi rhyddhau maniffesto ar gyfer Etholiadau Senedd Cymru eleni yn galw ar wleidyddion i ymrwymo i osod targedau uchelgeisiol yng Nghymru ar gyfer tyfu llysiau ein hunain. Ar hyn o bryd dim ond 25% o’r holl gnydau ffres rydym yn ei fwyta yng Nghymru sydd yn cael ei gynhyrchu yma. Mae nhw’n gosod targed uchelgeisiol o 75% erbyn 2030 – ac rwy’n cytuno i’r carn! Mae gymaint gallwn ni gyd wneud o dyfu ein llysiau ein hunain gartref, a dyma ychydig o dipiau a fy marn i ar y maniffesto.