Cwrs cadw gwenyn gyda Gwenyn Gruffydd

Rwy’ wedi cael diwrnod arbennig heddiw draw gyda Gwenyn Gruffydd ar gwrs cadw gwenyn i ddechreuwyr!

Diolch o galon Gruffydd ac Angharad am y croeso cynnes. Roedd y cwrs wir yn wych. Roedd yn llawn gwybodaeth ddefnyddiol o ran sut i gychwyn arni i gadw cychod gwenyn, gofalu am y gwenyn ac echdynnu’r mêl.

Bydden i’n argymell y cwrs i unrhyw un sy’n dymuno cadw gwenyn ac eisiau llond cwch o hyder a gwybodaeth i wneud.

Fel allech chi ddychmygu fel garddwr rwy’ wedi cyffroi’n lân ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gadw gwenyn yn yr ardd cyn bo hir.

Wedi’r cyfan does dim garddwr mwy gweithgar, ffyddlon na phwysig na’r gwenyn!