Cydweithio â Huw Richards: Gardd Paramaethu Llysiau Gwych

Roedd hi’n bleser croesawu Huw Richards i’r ardd nôl yn ystod yr haf i ffilmio’r fideo hwn.

Yn y fideo rwy’n siarad am sut aethom ati i gynllunio a datblygu’r ardd wrth arbrofi gyda dulliau garddio gwahanol fel garddio dim palu a garddio natur gyfeillgar. Rwy’ hefyd yn rhannu manteision cadw ieir, cwêls a hwyaid yn yr ardd yn ogystal â sôn am pam fod garddio’n bwysig i mi.

Diolch enfawr i Huw am y cyfle gwych hwn i ddangos yr ardd ac am lwyddo i ddal yr ardd a rhannu’r stori mewn ffordd mor greadigol a phroffesiynol. Mae wastad yn bleser cydweithio gyda Huw ac rwy’n edrych ymlaen am fwy o gyfleoedd eto yn y dyfodol!