Dechrau Cyfnod newydd i Adam yn yr ardd!
Heddiw, fe weithiais fy niwrnod olaf yn fy swydd bresennol ac rwyf wedi gwneud y penderfyniad i fynd i weithio ar fy liwt fy hun ym mis Ionawr a newid cwrs fy ngyrfa yn llwyr.
Pan raddiais o’r brifysgol yn 2014 doeddwn i byth yn meddwl y byddwn i, ymhen 7 mlynedd, wedi sefydlu fy nghwmni fy hunan ac yn paratoi i fynd ati i adael derbyn slip cyflog misol a chamu i ffordd newydd o weithio.
Rwyf wedi bod yn ffodus i allu gweithio i sawl mudiad gwahanol yn hyrwyddo’r Gymraeg ar hyd y blynyddoedd diwethaf ac rwy’n ddiolchgar dros ben am y bobl hyfryd rwyf wedi dod i adnabod ledled Cymru.
Doedd gadael cyflogaeth gyflogedig ddim yn benderfyniad rwydd, a rwy’ dal bach yn nerfus am be ddaw ond rwy’n credu’n gryf bod rhaid dilyn dy reddf a dy galon mewn bywyd. Yn ystod y ddwy flynedd diwethaf rwy’ wedi magu blas am weithio gyda phobl i rannu gwybodaeth a datblygu sgiliau garddio. Mae gymaint o gyfleoedd yno i wedd newid y ffordd ry’n ni’n cynhyrchu ein bwyd yng Nghymru. Mae gymaint o frwdfrydedd ac egni i ddatblygu prosiectau newydd ac rwy’ ishe bod yn rhan o’r cyffro hwnnw!
Yn y flwyddyn newydd bydda i’n datblygu rhaglen ymweliadau ysgolion gan gynnwys grwpiau cymunedol i annog mwy o bobl i fwynhau treulio amser yn yr ardd yn tyfu planhigion o bob math.
Bydda i hefyd yn datblygu adnoddau garddio ac yn ceisio dod o hyd i dir yn lleol er mwyn sefydlu gardd farchnad fydd yn fy ngalluogi i werthu cynnyrch ffres yn syth o’r pridd i’r plât.
Rwy’n awyddus dros ben i gydweithio hefyd, felly os hoffech chi gysylltu am sgwrs i drafod syniadau, plîs gwnewch ar bob cyfrif!
Mae’n mynd i fod yn brofiad hollol newydd imi yn dilyn cyfnod digon swreal yn ceisio ffeindio’r balans rhwng datblygu’r busnes a pharhau i weithio’n gyflogedig, ond rwy’n barod iawn i gamu i’r byd newydd yma ac yn edrych ymlaen am bob cyfle a ddaw.
Hoffwn ddiolch i bawb, yn grwpiau cymunedol, cymdeithasau, ysgolion a chwmnïau sydd wedi rhoi’ch ffydd ynof i yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Byddai sefydlu adam yn yr ardd a gwireddu breuddwyd ddim yn bosib heb eich cefnogaeth ddiguro chi!
Diolch am bopeth ac ymlaen i’r cam nesaf!