Yn y fideo yr wythnos hon rwy’n rhannu ychydig o gyngor ar sut i fynd ati i hau hadau Miri Mari. Rwy’n cyflwyno terminoleg garddio ar gyfer hau hadau fel ‘hau, hadau, egino, eginblanhigion’ a llawer mwy.
Os ydych chi’n adnabod unigolion sydd ar ben eu digon yn yr ardd ac yn awyddus i ddysgu’r Gymraeg a fyddech cystal â dwyn y fideo hwn i’w sylw?
Dewch nôl wythnos nesaf lle y byddwn yn dysgu holl enwau llysiau’r ardd. Cofiwch danysgrifio i’m Sianel Youtube.