Meddwl am fyd heb ffowlyn i’w harddu ~ Meddwl am fore heb geiliog a’i gân
Mae’r ieir yn rhan annatod o’n system garddio ni fan hyn yn clirio gwastraff bwyd a gardd ac yn ei drosi i greu gwrtaith heb ei ail i’n cnydau. Ry’n ni wedi bod yn cadw dofednod (ieir, soflieir neu gwêl a hwyaid) ers bron 9 mlynedd a dyma’r flwyddyn anodda un o ran eu cadw
Rwy’n ceisio peidio achwyn gormod ar y cyfryngau cymdeithasol am ei fod yn le cadarnhaol iawn ar y cyfan ond jawch, mae’r pleser o gadw ieir wedi pylu’n llwyr! Pan ddechreuais i, roedd sawl bridiwr yn magu stoc arbennig o dda, roedd prisiau bwydo yn rhesymol a gymaint o foddhad yn gweld yr ieir yn crwydro’n hapus o amgylch yr ardd Ac yna ddaeth gaeaf 2018 a dyfodiad ffliw adar i Gymru a chreu amodau heriol iawn!
Bob blwyddyn ers hynny mae wedi dod yn arferiad i orfod cau’r ieir dan do am fisoedd lawer dros y gaeaf i osgoi effeithiau ffliw adar. Mae hynny’n cynyddu costau bwydo, deunydd sych dan draed fel gwellt neu siafins ac yn golygu nad yw’r ieir yn dodwy gymaint o achos gostyngiad yn lefel y golau. Erbyn hyn gyda chostau trydan, tanwydd a bwyd mae’r ieir i bob pwrpas yn gwneud colled ariannol a hynny er mawr syndod ar gyfnod pan mae’r galw am wyau ar ei uchaf. Pam felly? Wel mae’r costau o’u cadw wedi cynyddu bron 40% mewn dwy flynedd heb sôn am effeithiau ffliw adar. Mae hyn yn golygu bod nifer o’r cyflenwyr wyau bach a chanolig wedi stopio bridio neu brynu ieir newydd – dyn ni ddim wedi bridio na phrynu ieir ers dwy flynedd.
Roedd pleser mawr mewn bridio ieir a gweld stoc da yn y sioeau bach a’r sêls ac mae hynny i gyd wedi dod i ben erbyn hyn. Ar Ddydd Gwener, 2 Rhagfyr, fydd hi’n ofynnol unwaith eto inni gadw’r ieir i gyd dan do i atal ymlediad ffliw adar ac rwy’n croesawu’r ymdrechion i wneud hynny ond beth yn wir yw’r cynllun hir dymor? Fydd ddim diwydiant wyau cynhenid ar ôl ymhen dwy flynedd os pery’r amodau hyn! O le daw ein hwyau wedyn? O dramor ar gost dychrynllyd i’r amgylchedd!
