Egino Tato

Mae’r tatws yn barod i’w plannu ar ôl egino am ychydig o wythnosau ar silff ffenest cynnes. Fel welwch chi yn y llun, mae’r egin bach yn tyfu allan o’r daten yn barod i greu tyfiant newydd. Bydd y tyfiant hwn yn gosod gwreiddiau newydd yn y pridd ac yn creu tatws.

Does dim rhaid egino tatws iddynt dyfu’n dda ond mae modd achub tipyn ar y blaen yn gynnar yn y tymor wrth wneud. Bydda i wedi ennill o leiaf 3 wythnos o’r tymor tyfu wrth wneud hyn ac yn gallu cynaeafu’n tatws yn gynharach o lawer. Ym mis Ionawr neu dechrau Chwefror, rwy’n gosod tatws had mewn lle heulog i egino. Yna, o amgylch Dydd Gwener y Groglith fel arfer, rwy’n plannu’r tatws mewn bwcedu ac yn eu rhoi yn y tŷ gwydr i ddechrau ond gallant gael eu symud i’r ardd ar ol ychydig o wythnosau. Ymhen 12-16 o wythnosau, bydd gennym gnwd hyfryd o datws o’r ardd yn barod am ginio dydd Sul.