
Mae’r ffa hyn yn rhai allech chi dyfu mewn potiau ac mae nhw ond yn tyfu i ryw 30cm o daldra ond yn dod â swmp o ffa ffres porffor
Rwy’n ceisio lleihau faint o gysgod bydd planhigion dringo yn creu yn yr ardd ond dal sicrhau cnwd da o’r llysiau hynny ry’n ni’n bwyta’n aml
Daw’r hadau yma gan gwmni Real Seeds. Bydden i wir yn argymell y cwmni yma, mae nhw’n lleol i Gymru, yn amgylcheddol gyfeillgar ac mae’r nifer o blanhigion sy’n egino yn ogystal â faint o hadau sydd mewn pecyn heb ei ail
Mae’n addo penwythnos ardderchog o heulwen ddidor, felly dim ond un lle sydd i fod… yn yr ardd!!