
Mae blodau porffor llachar y sibwns yn dod â gymaint o liw i’r ardd ac mae’r pryfed peillio wrth eu boddau â nhw… Mae rhain fel magned i’r cachgibwm!
Mae’r blodau hefyd yn fwytadwy ac yn hyfryd mewn saladau, ar bitsa, wedi’u rhostio gyda thato newydd neu wedi’u taflu mewn i salad tatws!
Mae blas winwnslyd meddal, bron fel garlleg arnyn nhw!
Ydych chi’n tyfu sibwns?