Mae’r labeli planhigion yn barod i’w gosod yn yr ardd.
Yn draddodiadol mae’n dueddiad i ysgrifennu pethau fel hyn yn Saesneg gan fod y pecynnau hadau wastad yn Saesneg ond does dim rhaid gwneud hyn, beth am ddod â mwy o Gymraeg i’n bywydau bob dydd wrth lenwi ein gerddi llawn enwau hyfryd?
Mae’n ffordd syml ac effeithiol i ddysgu enwau Cymraeg holl blanhigion yr ardd ac yn normaleiddio’r Gymraeg gyda’n plant a’n teuluoedd hefyd Beth amdani?
Hawliwch mai Cymraeg yw iaith yr ardd! Anfonwch luniau o’ch labeli Cymraeg chi ataf i ddathlu ein mamiaith