Gwlân yn yr ardd!
Rwy’n credu’n gryf y dylwn ni wastad garddio mewn modd sydd yn gwneud y defnydd gorau o’r deunyddiau sydd gennym wrth law. I mi mae hynny’n golygu defnyddio’r tail ffowls yn y domen gompost, sglodion pren gan drinwyr coed lleol, compost gan gwmnïau lleol a llawer mwy.
Mae un deunydd hynod ddefnyddiol gennym ni yma yng Nghymru nad ydym yn gwneud hanner digon o ddefnydd ohono fe, sef gwlân!
Mae tomenni o’r sdwff yn eistedd mewn stordai a beudai ar hyd a lled y wlad. Rwy’ wir ddim yn deall pam na allwn ni wneud mwy i ddefnyddio gwlân Cymreig yn yr ardd. Mae gwlân mor ddefnyddiol!
Mae gwlân yn:
1) diogelu planhigion tyner,
2) atal chwyn,
3) lleihau difrod malwod,
4) cynnal lleithder yn y pridd,
5) yn rhyddhau nitrogen yn araf i’r prif i fwydo’r tir,
6) cryfhau strwythur y pridd wrth bydru i helpu dreinio.
Rwy’ wedi bod yn defnyddio gwlân yn yr ardd ers llynedd fel tomwellt a gorchudd i gadw rhew bant o blanhigion bach tyner ac mae wedi bod hynod o lwyddiannus.
Mae cwmni Dalefoot Composts yng ngogledd Lloegr wedi llwyddo i droi gwlân gwastraff yn gompost difawn arbennig o dda, does bosib na allwn ni greu compost difawn o wlân Cymreig a chreu marchnad iddo yn ein canolfannau garddio? Diolch i Elin Williams a’i theulu am roi dwy sach wlân gyfan imi eleni