Mêl ar werth yn Siop y Pentan, Caerfyrddin

Mae ein mêl Cymreig a gasglwyd a chrewyd gan wenyn gweithgar Ffynnon-ddrain yn awr ar werth yn Siop Y Pentan, marchnad Caerfyrddin. Dyma fêl lleol sydd llawn rhinweddau naturiol! Llwyed y dydd a fyddwch chi fel Sonic!

Rydym hefyd yn chwilio am siop/siopau ardal Cwm Gwendraeth i werthu’r mêl sy’n cael ei gasglu yn yr ardal hon gan wenyn gwenynfa Gorslas (Yr ardd). Os oes diddordeb gyda chi mewn stocio’r mêl, cysylltwch â fi ☺️🍯