Dyma fresychen goch, math ‘Roodkop’.
Ydych chi erioed wedi meddwl pam fod bresych coch yn goch neu’n borffor?
Mae dail bresych coch yn cynnwys anthocyaninau, neu liw hydawdd dŵr sy’n ymddangos yn goch, glas neu borffor yn ddibynnol ar lefel PH y pridd.
Felly os hoffech chi brofi PH y pridd mewn ffordd naturiol, heb fod hast arnoch chi dyma’r llysieuyn i chi.
Os yw’r pridd yn fwy asidig bydd y dail yn fwy coch, os yn bridd niwtral neu’n fwy alcalïaidd fel y gwely hwn bydd y dail â lliw glas neu borffor.
Mae pridd ein gardd ni yn asidig iawn, dyna pham rwy’n tyfu’r rhan fwyaf o lysiau mewn gwlâu.
Mwynhewch y penwythnos.