Paratoi’r ardd cyn mynd bant ar wyliau

Ydych chi wedi cynllunio mynd bant ar eich gwyliau yn ystod yr haf ac yn poeni sut fydd eich planhigion yn ymdopi os nad ydych yno i ofalu amdanynt? Peidiwch boeni!

Mae gymaint o bethau allwn ni gyd wneud i baratoi’r ardd cyn mynd bant ar wyliau ac yn y fideo hwn rwy’n rhannu ychydig o gyngor i’n helpu!

Dyma eitem a darlledwyd ar raglen Prynhawn da. Rhaglen deledu gylchgrawn dyddiol Cymraeg yw Prynhawn Da, gallwch wylio rhaglenni a dysgu mwy am y rhaglen fan hyn: Prynhawn Da | S4C