Plannu bylbiau gwanwyn

Mae yna gymaint o fanteision i blannu bylbiau gwanwyn yn yr ardd. Maent yn dod â bach o liw i’r ardd ar ôl gaeaf llwm a thywyll ac hefyd yn darparu ffynhonnell fwyd cynnar hanfodol i’n pryfed peillio. Mae yna amrywiaeth o fylbiau ar gael gydag un sy’n addas i bob gardd. Mae bylbiau gwanwyn hefyd yn hawdd iawn i dyfu a gofalu amdanynt.

Yn y fideo hwn, rwy’n dangos sut i blannu bylbiau Cennin Pedr.

Am fwy o wybodaeth am brosiect Tyfu’r Dyfodol, ewch i: https://garddfotaneg.cymru/science/gr…