Am brofiad anhygoel cael y cyfle i fynd i sioe arddio am y tro cyntaf a chael cyfle hollol arbennig i rannu sut rwy’ wedi gweddnewid y ffordd rwy’n garddio yn defnyddio’r system dim palu neu no dig! Roedd yr ardd sydd wedi’i ddylunio gan Stephanie Hafferty a Charles Dowding No Dig Gardening yn arbennig! Roedd pob planhigyn yn edrych mor iach a hynny’n ddiolch i waith Terry Porter yn eu tyfu i gyd yn barod i’r sioe
Roedd mor wych cael bod yn rhan o’r holl gyffro a siarad gyda chymaint o wynebau newydd am bwysigrwydd tyfu bwyd ein hunain mewn modd sy’n gyfeillgar i natur a’r amgylchedd. Mwynheais rannu ychydig o Gymraeg gyda’r dorf yn ogystal
Roedd cwrdd â Sara Venn-The Community Gardener, Sow Much More , Sharpen Your Spades a Jan yn eisin ar y deisen hefyd, am bobl a ffrindiau arbennig a garddwyr ysbrydoledig tu hwnt! Diolch hefyd i griw Heno S4C am ddod i ffilmio’r cyfan!
Adam yn yr Ardd yn cyrraedd sioe flodau enwoca’r byd #RHSHamptonCourt ac yn rhannu ei brofiadau garddio hefo neb llai na Steph Harfferty a
Charles DowdingRhywun arall wedi cael cyfle i ymweld a’r sioe arddio?
💮💐🌻🌺🌸
Adam yn yr ardd
Posted by Heno S4C on Dydd Gwener, 9 Gorffennaf 2021