Sloes

Mae sloes yn ffrwyth bach porffor sy’n tyfu mewn perthi’r ddraenen ddu ar hyd a lled Cymru. Mae’r ffrwythau fel arfer yn barod i gynaeafu o amgylch mis Medi a Hydref.

Maent yn perthyn i’r un teulu ag eirin ac mae’r ffrwyth yn debyg hefyd heblaw am flas sur a chwerw y sloes, fel mae’r enw Cymraeg ffurfiol yn awgrymu sef Eirin Tagu. Er gwaethaf hyn mae gymaint allwn ni ei wneud gyda sloes.

Y peth fwyaf amlwg yw i greu Jin, Whisgi, Vodka neu Rum sloes trwy ychwanegu sloes a siwgr i wirodydd o’ch dewis – rwydd i wneud a jyst y peth i’w yfed yn ystod nosweithiau oer yr hydref a’r gaeaf.

Rhywbeth arall blasus allwch chi ei wneud â sloes yw surop i ychwanegu at goctel, hufen iâ neu i wneud jeli i’w fwyta gyda chigydd oer.

Un tip pwysig, rhowch y sloes yn y rhewgell am ddiwrnod cyn eu coginio – mae’n dynwared rhew ac yn meddalu’r croen gan adael i’r sudd lifo’n rwydd o’r sloes.

Felly y tro nesaf ewch chi am dro, peidiwch ag anghofio’r perlau bach yma a chasglwch nhw. Un peth yw mynd ati i dyfu bwyd yn ein gerddi ond mae bwyd am ddim o’n cwmpas ymhobman, yng ngardd natur!

Iechyd da!