Mae’r fideo o’r paill isod yn drawiadol. Edrychwch ar yr holl liwiau amrywiol wedi eu rhannu rhwng y celloedd!
Mae’r gwenyn wedi storio paill yn ôl y math o flodyn sydd yn golygu bod gan bob math o baill ei gell ei hunain Mae paill y ffa dringo mewn un cell a phaill yr ysgallen mewn cell arall
Yn y fideo fan hyn rwy’n meddwl fy mod i’n gweld paill o’r blodau canlynol:
Grug (Calluna vulgaris), Ffa (Fabaceae), Pengaled (Centaurea nigra), Helyglys Hardd (Chamerion angustifolium), Corryn y Gors (Succsia ptatensis), Sibwns (Alium schoenoprasum), Llaeth y gaseg (Lonicera), Mafon (Rubus idaeus), Llygaid y Llo (Leucanthemum vulgare), Ffarwel haf (Aster), Ysgallen (Cirsium), Erwain (Filipendula), Hocysen Gyffredin (Malva sylvestris), Pwmpen a Chorbwmpen (Cucurbitaceae).
Pam gwahanu paill yng nghelloedd y diliau? Dy’n ni ddim yn gwybod. Mae’r gwenyn mêl yn amlwg wedi gwahanu’r paill rydych chi’n edrych arno yn y fideo am reswm penodol iawn, ond dy’n ni ddim tamaid callach pam! Dyma pham bod byd natur yn arbennig… Mae gymaint na allwn ddeall amdano o hyd ac er y bydd gweld haid o wenyn yn hedfan yn ymddangos yn ddi-drefn ar yr arwyneb mae ganddynt y systemau a’r strwythurau mwyaf astrus, effeithlon a manwl yn y byd i gyd