Yn dilyn gwyntoedd cryfion mae wastad tipyn o waith tacluso i’w wneud yn yr ardd yn enwedig yn ystod tymor yr hydref. Yn y fideo hwn rwy’n mynd ati i dacluso’r blodau haul, y bresych ond hefyd plannu bylbiau gwanwyn i ddod ag ychydig o liw i’r ardd yn ystod mis Chwefror a Mawrth.
Dyma eitem a darlledwyd ar raglen Prynhawn Da, S4C.