Dyma 4 math o diwber sydd wedi bod yn tyfu yn yr ardd dros y flwyddyn dwethaf:
- Oca (Oxalis tuberosa),
- Mashua (Tropaeolum tuberosum),
- Yacon (Smallanthus sonchifolius),
- Artisióg Jeriwsalem (Helianthus Tuberosus).
Bwyd o Beriw a Bolifia yw’r Oca (llun 1) ac mae’r tiwberau yn lliwgar dros ben ac wedi’u rhostio mae ‘da nhw blas sy’n debyg i dato
Mae Mashua (llun 2) yn perthyn i’r Miri Mari ond yn dod â thiwberau bwytadwy hefyd yn ogystal â dail salad a blodau melys hyfryd yn hwyrach yn y tymor tyfu
Y tiwberau mwyaf yw’r Yacon (llun 3) planhigion sy’n perthyn i’r Dahlia a’r Artisiòg Jeriwsalem. Mae nhw’n ffurfio tiwberau mawr ac yn gallu tyfu mewn amodau tyfu heriol fel tir gwlyb sy’n llawn clai ond mae angen codi’r tiwberau cyn cyfnodau hir o rew. Blas tebyg i gnau dŵr neu water chestnut ar ôl eu storio am ychydig wythnosau i aeddfedu sydd gan yr yacon.
Ac yn olaf Artisióg Jeriwsalem (llun 4) eto yn debyg i’r Oca yn eilydd da iawn i dato ac yn dod yn aeddfed yn yr ardd pan fydd y cnwd tato storiwyd gynt yn y tymor yn prinhau. Mae nhw’n tyfu’n hynod effeithiol ac unwaith byddan nhw mewn rhan o’r ardd byddan nhw yno i’ch bwydo am byth
Mae pob un o’r tiwberau hyn yn ddatblygiadau newydd i ni yn yr ardd yn ein hymgais i ddod yn fwy hunangynhaliol ac mae’r bwydydd maethlon iach mae modd eu paratoi gyda nhw yn dirifedi! Bydden i’n annog chi gyd i roi cynnig arnynt os oes cornel fach gysgodol neu ran o’r ardd yn rhydd gyda chi