Tomatos San Marzano

Yn y llun fan hyn mae dros 70 o blanhigion Tomato ‘San Marzano’

Y peth gorau am y San Marzano yw ei fod yn cael ei beillio’n agored. Mae hyn yn golygu bod modd cadw ei hadau flwyddyn ar ôl blwyddyn a bydd yr eginblanhigion yn tyfu yn gywir fel eu rhieni. Mae hyn yn wahanol i’r rhan fwyaf o fathau newydd F1 fel Tomato y Ddraig Goch lle nad oes modd ail-greu union yr un planhigyn o gadw’r had.

Fe drawsblannais yr holl planhigion yma ar ddechrau mis Ebrill ac roedd llawer mwy ohonynt na’r disgwyl wedi egino, er doedd ‘da fi ddim y galon i daflu’r rhai nad oedd eu hangen arnom ni.

Dyma un o’r pethau rwy’n stryglo fwyaf i wneud yn yr ardd yw tyfu jyst digon heb fynd dros ben llestri! Dwlen i berchen ar feithrinfa, bydden i’n filiwnydd erbyn nawr!