Tŷ gwydr llawn mis Hydref

Rwy’n cael gymaint o bleser o weld tŷ gwydr llawn planhigion! Mae ymweld â thai gwydr pobl eraill fel Disney land i fi 🤣

Ar hyn o bryd, rwy’n cysgodi nifer o blanhigion bach a thoriadau fan hyn gan fod lle. Mae peth saladau, bresych a ffa hefyd i’w plannu yn yr ardd ac yng ngerddi rhai o’r ysgolion fydda i’n ymweld â nhw yn ystod yr wythnosau nesaf 🌱