Tyfu yn y tŷ gwydr

Y tŷ gwydr yn llawn dop yn barod 😃

Ydych chi’n rhedeg mas o le i dyfu eich planhigion chi? Bob blwyddyn fydda i’n cael panics ac yn ceisio dod o hyd i ryw gornel fach arall i dyfu planhigion 🌱

Mae’n gyfnod hollbwysig i gadw planhigion tyner yn ddiogel rhag rhew hwyr. Mae angen pwyso a mesur beth fydd yn iawn tu fas yn yr ardd a beth sydd angen cadw ar silff y tŷ gwydr am wythnos neu ddwy fach arall.

Mae’r wythnosau rhwng mis Ebrill a Mehefin yn rhai tyngedfennol yn yr ardd, yn eithriadol o brysur a’r rhestr tw dw byth yn dod i ben ond mae’n gyfnod arbennig hefyd yn llawn cynnwrf, cyffro a gobaith am dwf a chnydau blasus 😊