Y Cynhaeaf Mawr

Does dim gwell pleser yn y byd na mynd ati i gasglu cynnyrch ffres o’r ardd wedi misoedd lawer o ofal a thyfu gofalus.

Yn y fideo hwn rwy’n dangos sut i fynd ati i gynaeafu nifer o gnydau cyffredin yn ogystal â diogelu planhigion bresych o lindys gwyn y bresych yn yr ardd.

Dyma eitem a darlledwyd ar raglen Prynhawn Da, S4C.