Y Pwll Natur

Mae’r pwll natur yn llawn dop â bywyd a blodau erbyn hyn 😃 Un o’r pethau gorau wnes i oedd creu pwll natur. Mae’n hanfodol o ran denu pob math o natur i mewn i’r ardd a hynny sy’n fy helpu i ddatrys rhai o’n problemau garddio cyffredin fel difrod gan wlithod a malwod 🐌

Bydd angen chwynnu’r pwll yn hwyrach yn yr haf (tua mis Awst fel arfer) pan fydd y rhan fwyaf o’r amffibiaid wedi gadael y dŵr 🐸 Os allwch chi greu lle i pwll natur yn eich gerddi, gwnewch 😃

Does dim angen mwy na bwced o ddŵr llawn planhigion a cherrig arnoch i wneud gwahaniaeth mawr i fyd natur eich ardal ac wrth gwrs eich helpu chi i ofalu am eich planhigion i gyd 🌱