Y tai gwydr ym mis Mai

Mae’r tai gwydr yn ffrwydro llawn tyfiant a gymaint o blanhigion i’w plannu mas i’r ardd!

Heddiw rwy’n gobeithio gorffen y gwaith o godi 4 gwely newydd, peintio’r gwlâu i gyd cyn plannu mas ac yna mynd ati i lenwi pob rhan o’r ardd â chnydau eleni!

Pys, Ffa, Kohlrabi, Bresych, Cêl, Swêds, Selari, Sibwns, Brocoli, Rhuddygl, Letys, Sbigoglys, Tsiard, Winwns, Erfin, Mefus, Bysedd y cwn, Salvia, Nepeta, Ranunculus, Lafant, Lobelia, Melyn Mair, Pys pêr i gyd angen symud mas o’r tai gwydr ac i mewn i’r ardd! Mae’n mynd i fod yn ychydig o ddyddiau prysur iawn yn yr ardd heb os!

Ydych chi’n mynd i arddio dros benwythnos gŵyl y banc?