Dyma fy hoff lun i o’r ardd
Bwyd ffres, blodau, gwyrddni a thwf ym mhob cornel Rwy’n cychwyn cynlluniau nawr ar gyfer y tymor tyfu eleni sy’n cynnwys codi tŷ gwydr arall, tomen gompost newydd, gwlâu newydd i’r ffrwythau meddal ac o bosib (yn ddibynnol ar amser a cheiniogau prin) rhyw fath o stafell ddosbarth allanol fel y galla i ystyried cynnal cyrsiau garddio yn yr ardd fan hyn yn y dyfodol
Digon i’ nghadw i’n fishi a mas o drwbwl am y misoedd nesa