Ar Weun Cas-mael!
Cefais groeso arbennig yn Ysgol Cas-mael heddiw wrth gynnal sesiynau yn dysgu am wenyn a pheillio a hau cnydau yn barod i’r tymor tyfu newydd! Ac yn goron ar y cyfan derbyn llyfryn o luniau hyfryd gan blant y derbyn, blwyddyn 1 a Blwyddyn 2
Dyma fi yn fy siwt gwenyn, diolch blant Rwy’n teimlo’n ffodus tu hwnt fy mod i’n cael gweithio gydag ysgolion i ddysgu sgiliau tyfu i genhedlaeth newydd o arddwyr