Ysgolion Aberystwyth

Cefais amser arbennig wythnos ddiwethaf yn ymweld ag ysgolion cynradd yn ardal Aberystwyth i gyflwyno sesiynau garddio gyda’r plant!A

Aethom ati i adeiladu gwlâu llysiau a hau pob math o hadau ac roedd hefyd yn gyfle arbennig i’w helpu i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg 😀🥕🥔🥬

Wythnos nesaf byddwn ni’n canolbwyntio ar ddenu byd natur i fewn i’r ardd 🦔🐝 Mae’r prosiect hwn ar y cyd gyda Urdd Gobaith Cymru yng Ngheredigion a Cyngor Sir Ceredigion fel rhan o weithgareddau Gaeaf Llawn Lles. Mae mor braf gallu ymweld ag ysgolion eto a dysgu sgiliau tyfu bwyd pwysig a hynny tu allan yn yr awyr iach 🌤️