Adeiladu Gwely Llysiau

Mae nifer wedi gofyn sut es i ati i adeiladu’r gwelyau llysiau, felly dyma esbonio’r broses, cam wrth gam.

Defnyddiais i joists pren 9×2 i greu’r gwlâu yma, ond gallwch chi ddefnyddio 6×2, does dim angen lot o ddyfnder i dyfu llysiau, yn enwedig os ydy’r gwlâu yn eistedd ar ben y pridd fel yn fy achos i.

Defnyddiais i sgriws Hex 6.7 a 150mm o hyd a rhoi dau sgriw ym mhob cornel.

Mewn rhai mannau ble roedd angen codi’r gwely i’w gael yn lefel, fe fwriais i pyst bach 2×2 o bren i mewn yn dynn i’r corneli a sgriwio nhw i’r ffrâm hefyd yn defnyddio sgriws decking.

Mae fy ngwlâu i tua 3m o hyd ac 1.5m o led felly er mwyn stopio camiad neu blygiad fe rois i gwial haearn neu ‘threaded rod’ yng nghanol y gwely a’i folltio y naill ochr â’r gwely i’r llall a mae hynny’n cadw’r ffrâm yn weddol sgwâr.

Peintio wedyn gyda phaent Ronseal neu Cuprinol Timbercare bob yn ail flwyddyn i gadw’r pren rhag bydru.

Costiodd y cyfan o gwmpas £500 i adeiladu gan fy mod i wedi defnyddio pren eilradd neu ‘seconds’ nad oedd modd defnyddio i greu lloriau neu do tai ond hen ddigon da ar gyfer gwlâu llysiau.

Mae 14 gwely i gyd a mae nhw’n mynd mewn i’w pedwaredd flwyddyn erbyn hyn ac fel newydd.