Wrth i domatos aeddfedu, maent yn troi o fod yn wyrdd i liw coch ac mae’r blas yn melysu. Gewch chi ddim ffrwyth ffeinach na thomatos wedi tyfu gartref.
Oeddech chi’n gwybod bod tomatos yn mynd yn drymach ar ôl ichi eu cynaeafu? Os ydych chi’n cynaeafu gwerth 1kg o ffrwythau heddiw gallant bwyso 1.2kg yfory!
Tip aeddfedu tomatos:
Os oes ‘da chi domatos gwyrdd yn y ty gwydr neu’r ardd, rhowch groen banana ar y brigau ar eu bwys nhw. Mae croen banana yn cyflymu’r broses aeddfedu yn sylweddol achos y nwy ethylene sy’n dod oddi wrthynt, dyna pham fod bananas yn troi’n frown yn sydyn.
Yn yr un modd, os wnewch chi adael i rai o’r tomatos coch fod ar y planhigyn am ychydig ddyddiau, mae’r planhigyn ei hun yn cynhyrchu ethylene sy’n aeddfedu’r ffrwyth eraill i aeddfedu’n gynt. Yna, byddant yn berffaith am sangwej tomato, pupur du a finegr.. Mmmm!