Britheg y Gors

Britheg y Gors yn peillio’r ysgall yn y caeau cyfagos â’r ardd.

Mae’r Pili Pala hwn yn brin iawn yn Ewrop erbyn hyn o achos colli cynefinoedd i ddatblygiadau mawr ac amaethyddiaeth ddwys. Rhannau o dde Cymru yw ei gadarnle olaf. Ers inni symud i’n cartref mae prosiect cadwraeth arbennig wedi’i ddatblygu yn y caeau cyfagos i wella’r cynefinoedd ar gyfer y pili-palod a phob blwyddyn rwy’ wedi bod yn cadw llygad barcud i weld os oes mwy ohonynt o gwmpas.

Heddiw wrth fynd am dro fe welais dros 20 ohonynt yn peillio blodau’r ysgall a’r meillion coch a dyma un ohonynt yn torheulo yn yr haul. Dyma’r nifer fwyaf imi weld yma a’r tro cyntaf imi lwyddo i ddala nhw ar gamera! Mae mor bwysig inni sylweddoli gwerth y cynefinoedd sydd o’n cwmpas a chyfraniad hynny i’n hamgylchedd 🌍

Rwy’n teimlo mor freintiedig a balch gallu dal hwn ar gamera heddiw ac adrodd yn ôl i dîm y prosiect bod eu hymdrechion wedi dwyn ffrwyth! Hir oes i Fritheg y Gors 🤩