Codi ffrâm dringo i’r cinabêns

Mae’r fframiau bambŵ a phren welwch yn y llun yn ffordd wych o dyfu pob math o blanhigion neu gnydau sy’n dringo heb orfod aberthu gormod o le yn y gwlâu.

I’w adeiladu, mae angen coed bambŵ 2.4m, pren 38 x 19 mm, darn dril fflat 25 ar gyfer pren a sgriws decking sydd wedi eu trin.

1) Yn gyntaf mesurwch faint o le sydd gyda chi i osod y ffrâm.

2) Mesurwch a thorrwch dau ddarn hir o bren 38mm x 19mm (neu 2″ x 1″) i greu pyst fel bod tua 2m o uchder y naill ochr a’r llall.

3) Gosodwch y darnau o bren yn y ddaear fel eu bod yn sefyll yn syth fel pyst ar yr un uchder, (os oes gennych wely pren o’u cwmpas fel yn fy achos i, sgriwiwch y pren i’r gwely i’w gryfhau)

4) Mesurwch y bwlch rhwng y ddau bostyn ac yna torwch un darn o bren 38mm x 19mm yn barod i greu pont rhwng y pyst.

5) Driliwch dyllau bob 15cm lawr y darn hyn o bren (neu rywbeth tebyg yn dibynnu ar hyd eich ffrâm)

6) Yna, sgriwiwch i mewn i dop y ddau bostyn i greu pont.

7) Gwthiwch goed bambŵ i lawr drwy bob twll yn y pren i’r ddaear (ceisiwch eu gwthio’n sownd yn y pridd)

A dyna ni, rydych chi wedi codi ffrâm cryf fydd yn berffaith ar gyfer tyfu Cinabêns, Pys Pêr, Pys, Sgwash, Tomatos, Ciwcymbers a phob math o blanhigion dringo. Mwynhewch y garddio!!