Mae’r coed yn plygu dan bwysau un o’r cnydau ‘fale gorau welais i erioed Mae’n flwyddyn dda iawn iddynt eleni am sawl rheswm. Yn gyntaf doedd rhew hwyr ddim yn broblem i’r blagur eleni. Yn ail roedd sychder mawr y gwanwyn hefyd yn golygu bod digon o gyfle i’r gwenyn a pheillwyr eraill i beillio pob blodyn dan haul (yn llythrennol)!
Mae’r nostalgia rhyfedda yn perthyn i’r afalau i mi, o’u tyfu, casglu a choginio! Yn wir mae gymaint o ddywediadau a diarhebion gennym amdanynt hefyd yn cynnwys :
- Ni cheir afal pĂŞr ar bren sur
- Afalau’r nos, cnau’r bore, os ceri’th iechyd
- Yr afal mwyaf yw’r pydraf ei galon
- Afal pwdr a ddryga’i gyfeillion.
Oes dywediadau gyda chi am afalau a beth yw eu hystyr?