Corbwmpenni

Mae corbwmpenni yn rhwydd i dyfu, yn rhwydd i goginio ac yn rhwydd i fwyta. Llynedd, cawsom sawl wythnos wlyb ac ychydig ddiwrnodau o wres tanbaid – roedd hyn yn help mawr i’r corbwmpenni a chawsom llond gnwd da!

Rydym yn mwynhau bwyta corbwmpenni wedi’u rhostio neu eu torri i wneud courgetti i gael gyda physgodyn a lemwn.

Un tip pwysig os ydych chi’n tyfu corbwmpenni yw gwneud yn siŵr eich bod yn eu cynaeafu bob yn ail ddydd os yn bosib. Hyd yn oed y rhai bach! Gofalwch nad ydych chi’n gadael i un dyfu’n anferth a mewn i Marrow… Mae hynny’n ddigon i arafu’r planhigyn a’i atal rhag gynhyrchu mwy o ffrwythau.

Os oes Marrows gennych yn barod, gallwch ei ddefnyddio mewn cyri neu gallwch chi greu liqueur cryf iawn gyda nhw drwy dorri twll yn y top, tynnu’r canol mas a rhoi siwgr yn ei le. Gadewch e am ychydig wythnosau i aeddfedu a melysi a dyna ni, bydd diod cadarn go iawn ‘da chi – digon i roi cnu o flew ar eich cefn!