Mae’n gyfnod prysur yn yr ardd yn hau’r holl hadau yn barod am dymor tyfu newydd sbon. Er mwyn sicrhau bod yr hadau’n egino a bod eginblanhigion bach yn tyfu dan yr amodau tyfu gorau posib, yn aml bydd angen gwres o rhwng 10-20˚C.
Mae modd tyfu nifer o hadau dan do neu ddefnyddio gwresogwyr trydan neu danwydd ond wyddech chi fod ffordd arall i wneud hyn wrth ddefnyddio proses hollol naturiol ac organig i gynhyrchu gwres yn yr ardd?
Yn y fideo hwn, rwy’n rhannu sut fydda i’n defnyddio tail ieir i godi gwely cynnes yn y twnel tyfu a chynhyrchu gwres naturiol sy’n hollol gynaladwy ac eco-gyfeillgar.
Os wnaethoch chi fwynhau’r fideo hwn, a fyddech cystal â rhoi bawd lan a gadael sylw oddi tano’r fideo ar Youtube gyda’ch adborth neu’ch cwestiynau.
Hefyd byddwn wir yn gwerthfawrogi pe fyddech yn rhannu’r fideo hwn gyda’ch ffrindiau garddio eraill. Tanysgrifiwch hefyd, os nad ydych wedi yn barod. Rwy’n gobeithio cynhyrchu mwy o fideos tebyg yn reolaidd.