Llond y lle o blanhigion gwreiddnoeth wedi eu potio yn barod i dyfu ‘mlaen cyn eu plannu yn yr ardd.
Rydym yn bwriadu cychwyn gwaith ar ran waelod yr ardd (y rhan agosaf i’r tŷ) yn ystod y misoedd nesaf.
Mae gennym gynlluniau cyffrous i greu borderi mawr gyda phlanhigion bwthyn traddodiadol, mwy o wlâu blodau torri, pwll natur gwyllt fach arall gyda phlanhigion dŵr sydd llawn blodau a decking bach i joio’r cyfan hefyd. Ond er mwyn arbed arian rwy’ wedi prynu llwyth o blanhigion lluosflwydd yn wreiddiau fel welwch chi yn y llun. Dyma sydd ‘da fi i gyd:
4 Delphinium
2 Physalis’ Chinese Lantern’
2 Liatris Spicata (gwyn a phinc)
4 Kniphofia ‘Erecta’
6 Bysedd y Blaidd
4 Eryngium alpinum
6 Gypsophelia rosea
4 Echincea purpurea
4 Aquilegia
4 Geranium phaeum
40 planhigyn am £25! Bargen!
Cofiwch does dim rhaid i’r ardd greu twll yn eich poced. O gynllunio ymlaen llaw, mae cyfle hefyd i fwynhau’r profiad o feithrin eich planhigion eich hunain a’u gweld yn tyfu ac aeddfedu.