
Cystadlu am y tro cyntaf mewn sioe lysiau!
Wel roeddwn i’n bles dros ben i ddod i’r brig gyda fy nhatws Nadine yn y Sioe Fowr wythnos ddiwethaf
Doeddwn i sicr ddim yn disgwyl profi llwyddiant wrth gystadlu am y tro cyntaf ond roedd y wefr o weld y garden goch yn anhygoel!
Os nad ydych chi wedi cystadlu mewn sioeau blodau a llysiau o’r blaen, fy neges i fyddai rhowch gynnig arni – mae’n gymaint o sbort ac mae’n ddathliad o’n cynnyrch gorau ![]()
![]()
![]()
Y gamp fan hyn oedd sicrhau bod 5 taten lan tua’r un siâp a maint mewn casgliad gyda’i gilydd. Ar ôl cynaeafu sawl bwced… daeth y 5 yma i’r wyneb, yn llythrennol
!
Fe lwyddais i hefyd i ennill dosbarth y ffrwythau meddal i ddechreuwyr a dod yn ail gyda’r Pys pêr i ddechreuwyr ![]()