Diwrnod diddorol iawn yn y wenynfa heddiw Wrth fynd ati i archwilio’r cychod gwenyn fe ddigwyddodd rhywbeth arbennig o flaen ein llygaid… cychwynnodd un o’r cychod gwenyn i heidio.
Heidio yw’r broses pan fydd yr hen frenhines yn gadael y cwch gyda llond haid o wenyn i greu teulu newydd gan adael rhyw hanner o’r gwenyn a’r ôl gyda brenhines newydd. Dyma sut fydd teulu o wenyn yn atgenhedlu
Fel gwenynwr mae’n bwysig ceisio atal y gwenyn rhag heidio a sicrhau ein bod yn eu rhannu cyn i hynny ddigwydd a chreu cychod newydd. Dyna wnaethon ni gyda’r cwch hwn rhyw dair wythnos yn ôl ond heb yn wybod i ni roedd dwy gell (wy) brenhines ar ôl ac felly dyma nhw heddi yn penderfynu heidio!
Lwc pur oedd ein bod ni yno ar yr adeg iawn i wylio’r cyfan a gweld i le roedden nhw’n mynd i’w dal a dychwelyd i gwch gwenyn newydd