Mae’n ddydd Gwener y Groglith ac yn ddiwrnod traddodiadol i blannu tato yn ein teulu ni
Rwy’ ishws wedi plannu sawl bwceded o dato a pheth yn y pridd hefyd ond bydda i wastad yn plannu tato ar ddydd Gwener y Groglith yn ogystal i gadw’r hen draddodiad i fynd! Byddai fy nhad-cu a’i gymdogion yng Nglanaman wastad yn plannu tato ar ddydd Gwener y Groglith, ydych chi’n gwneud hefyd?
Does dim rheswm garddwriaethol penodol gan gofio bod y dyddiad yn newid bob blwyddyn ond yn gyffredinol mae’n cwympo ar yr adeg berffaith i blannu tato a gan na fyddai gwaith ar ŵyl y banc byddai’n ddiwrnod perffaith i gael yr ardd yn barod am y tymor sydd ar ddod
Mae’n bwysig addasu a newid ein dulliau garddio yn ôl y wybodaeth sydd ar gael ond mafe yr un mor bwysig cynnal traddodiad a chofio gymaint o arferion garddio pwysig oedd unwaith yn rhan ddiwahân o’n bywydau yng Nghymru!
O am weld diwrnod eto pan fydd y mwyafrif o bobl yn tyfu eu llysiau eu hunain adref Dydd Gwener y Groglith hapus a bendithiol i chi gyd