Mae gymaint o gyffro pan ddaw cwymp o eira a blanced trwchus dros yr ardd ond ydy eira’n dda neu’n ddrwg i’n planhigion?
Roedd fy nhad-cu yn arfer dweud bod eira trwm yn llesol i’r ardd ac yn helpu’r planhigion i dyfu’n gryf yn y gwanwyn. Ond a oes gwirionedd yn hwn o gwbl dybed?
Un fantais o gael trwch o eira yw ei fod yn inswleiddio’r pridd a’r planhigion rhag y tywydd oeraf.
Os bydd y tymheredd yn disgyn yn sydyn heb orchudd o eira, gall y tymheredd hyn rewi’r ddaear yn ddyfnach ac effeithio ar dyfiant gwreiddiau planhigion yn enwedig coed a llwyni. Bydd trwch o eira yn atal hyn rhag ddigwydd gan ei fod inswleiddio’r ddaear ac yn ei gadw’n gynhesach na thymheredd yr aer.
Er enghraifft, roedd hi’n – 7.1°C un fore, digon oer i ladd rhai planhigion yn sicr ond o ddiolch i’r eira bydd y rhan fwyaf ohonynt wedi â bod yn iawn ac yn gynhesach o dan eu blanced newydd.
Mae eira hefyd yn dod â nitrogen i’r ardd wrth iddo glynu i’r moleciwlau nitrogen o’r atmosffer. Mae nitrogen yn hanfodol i blanhigion dyfu’n gryf ac iach. Yr unig anfantais wela i yw pwysau trwm eira dwfn ar frigau coed neu blanhigion. Felly pan ddaw cwymp mawr o eira, cofiwch symud neu dynnu peth o’r eira (ond ddim i gyd) oddi ar frigau a phlanhigion tyner i atal ddifrod o bwysau’r eira.