Gwreiddiau

Mae gwreiddiau’r dail salad yn datblygu’n dda!

Mae gweld y gwreiddiau bob tro yn fy rhyfeddu, yn tyfu’n dawel ac yn ddiffwdan dan y pridd heb ein bod ni’n gallu gweld na mesur eu tyfiant. Hynny o leiaf tan iddynt wasgu i bob rhan o’r pridd sydd ar gael iddynt yn y potyn fel welwch yn y llun ac yna’n dianc trwy’r tyllau yn y gwaelod.

Mae’r gwreiddiau yn darparu dŵr, maetholion a mwynau tyngedfennol i alluogi’r planhigion i dyfu a thrwy tyfiant iach bydd ffotosynthesis y dail yn ei dro yn cryfhau’r gwreiddiau hefyd. Mae’r cyfan yn un system effeithlon sy’n cefnogi tyfiant iach a ffyniannus.

Fyddai wastad wrth fy modd ar ryfeddodau byd natur a chylch tyfu planhigion.